Yr ydych yma: Staff > Ci Cybi
Gan bod y newyddion eisioes wedi dechrau ymledu, ga’i fanteisio ar y cyfle i rannu ychydig o newyddion ‘Cyngor Ysgol Cybi’ gyda chi ar ddiwedd Tymor y Gwanwyn. Yn dilyn ymgyrch gan y Cyngor Ysgol wedi’i arwain gan waith caled Miley Edwards, Madison Marshall a William Owen rydyn ni wedi ymrwymo i gael gafael ar gi i fod yn rhan o deulu Ysgol Cybi.
Pan yrrwyd y cais ataf fi’n wreiddiol fel fedrwch chi gredu, doeddwn i fel Pennaeth ddim yn awyddus o gwbl ac yn gweld y problemau diddiwedd allasai gyrraedd gyda’r ci! Ond, roedd y Cyngor Ysgol yn benderfynol, yn benderfynol iawn. Aethon nhw ati i …..
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth gyda chi dros yr wythnosau nesaf, ond ga’i orffen drwy bwysleisio bod defnydd o gwn i gefnogi pob agwedd o les plant mewn ysgolion wedi tyfu’n fwy a mwy pobolgaidd yn y blynyddoedd diwethaf wrth i’r ysgolion hynny brofi llwyddiant. Wrth i ni fwrw ymlaen gyda’r trefniadau byddwn yn meddwl yn ofalus am yr ystyriaethau ymarferol, yn llunio asesiadau risg ac wrth gwrs yn gofyn am ganiatad rhieni i sicrhau eich bod chi a’r plant yn gwbl gyfforddus.
Dyma luniau Twm, ein ci ysgol yn brysur yn gwrando ar ddisgyblion yn darllen.