Arolygiad Estyn Ysgol Cybi


Yr ydych yma: Newyddion > Arolygiad Estyn Ysgol Cybi

Mae Adroddiad Arolwg Estyn Ysgol Cybi wedi’i gyhoeddi o’r diwedd, ac mae bellach ar gael ar wefan Estyn.

https://www.estyn.gov.wales/provider/6603036

Tra bod yr ysgol yn croesawu prosesau monitro o’r fath ac yn cydnabod eu rôl yn ein cynorthwyo i adnabod ein cryfderau a’n gwendidau, mae’n bwysig fy mod hefyd yn cydnabod y llwyth gwaith ychwanegol. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Corff Llywodraethol a’n staff ardderchog am eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain gyda dim ond un argymhelliad; ac rydym i gyd yn arbennig o falch bod ein hymdrechion i flaenoriaethu lles wedi’u nodi fel astudiaeth achos i’w rhannu gydag ysgolion eraill ar wefan Estyn.

Byddwn yn bwrw ymlaen gyda’r gwaith o ymateb i’r argymhelliad sydd wedi’i rannu gyda ni ac yn edrych am gyfleoedd pellach i ddatblygu agweddau o ragoriaeth ar draws ein darpariaeth. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ac er budd ein cymuned leol.

 

Mr Owain L Roberts
Pennaeth Ysgol Cybi

(I lawr lwytho llythyr Adroddiad Arolwg Estyn Ysgol Cybi cliciwch yma)